House of Cards (Netflix)

House of Cards
Genre Drama wleidyddol
Crëwyd gan Beau Willimon
Seiliwyd ar:
House of Cards
gan Michael Dobbs
Seiliwyd ar:
House of Cards
gan Andrew Davies
Serennu Kevin Spacey
Robin Wright
Kate Mara
Corey Stoll
Michael Kelly
Sakina Jaffrey
Kristien Connolly
Sebastian Arcelus
Michel Gill
Nathan Darrow
Rachel Brosnahan
Constance Zimmer
Mahershala Ali
Elizabeth Norment
Sandrine Holt
Jayne Atkinson
Molly Parker
Gerald McRaney
Jimmi Simpson
Elizabeth Marvel
Derek Cecil
Mozhan Marno
Paul Sparks
Neve Campbell
Joel Kinnaman
Cyfansoddwr y thema Jeff Beal
Gwlad/gwladwriaeth Yr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 5
Nifer penodau 65
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 43-59 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol Netflix
Rhediad cyntaf yn 1 Chwefror, 2013 - presennol
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Mae House of Cards yn gyfres we-deledu wleidyddol Americanaidd a ddatblygwyd a chynhyrchir gan Beau Willimon. Mae'n addasiad o'r mini-gyfres BBC a seiliwyd ar y nofel gan Michael Dobbs. Ymddangoswyd y gyfres gyntaf gyfan, sy'n cynnwys 13 pennod, am y tro cyntaf ar y gwasanaeth ffrydio Netflix ar 1 Chwefror, 2013. Ymddangoswyd ail gyfres o 13 pennod am y tro cyntaf ar 14 Chwefror, 2014, ac ymddangoswyd y drydedd gyfres am y tro cyntaf ar 27 Chwefror, 2015. Adnewyddyd House of Cards ar gyfer pedwaredd gyfres, a fe'i hymddangoswyd am y tro cyntaf ar 4 Mawrth, 2016. Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Neflix bod y gyfres wedi cael ei hadnewyddu ar gyfer pumed cyfres a ryddhawyd yn 2017. Cyhoeddwyd y byddai Willimon yn gadael ei swydd fel rhedwraig ar y rhaglen ar ddiwedd y bedwaredd gyfres.[1]

Ar 30 Hydref 2017, cyhoeddodd Netflix mai'r gyfres derfynol y byddai'r chweched cyfres, yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol yn erbyn Spacey. Ar 3 Tachwedd 2017, cyhoeddodd Netflix bod Spacey wedi cael ei ddiswyddo o'r rhaglen. Ar 4 Rhagyfr 2017, cyhoeddodd Netflix y cynhyrchir chweched cyfres gydag wyth pennod yn gynnar yn 2018 heb Spacey. Rhyddheir y gyfres derfynol yn nes ymlaen yn 2018.

  1. Schneider, Michael (February 13, 2014). "House of Cards Creator Beau Willimon on the D.C. Thriller's Second Season". TV Guide. Cyrchwyd October 2, 2015.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy